top of page

VRÏ BWYGRAFFIAD 2022

 

GAN ANDY MORGAN

 

“Mae traddodiad y capeli yn eistedd ar Ddiwylliant Cymru fel Wal Berlin,” meddai Jordan Williams. “Ac mae'n dal i fod yno.” Ar un ochr i’r wal, mae’r hen arferion Celtaidd llawen o chwarae ffidil, dawnsio a diota, ynghyd â llu o ganeuon a straeon traddodiadol yr un mor doreithiog â rhai’r Alban ac Iwerddon; ar yr ochr arall, mae capeli tywyll a adeiladwyd fel pwerdai, a fu gynt yn fywiog a gwresog dan ganu, ond yn awr yn gynyddol wag ac yn wasgaredig ar draws y wlad fel cerrig beddau ffydd a ymddangosai mor ddiysgog.

 

Mae'n rhaniad chwerwfelys. Yn ystod y 200 mlynedd a mwy y meddiannodd Methodistiaeth galonnau Cymru, gwnaeth lawer i feithrin ymdeimlad o obaith, o falchder, o gymuned mewn gwlad a chafodd ei hysgwyd i’w seiliau gan y chwyldro diwydiannol. Bu’n help i hybu gwleidyddiaeth asgell chwith, llythrennedd, yr iaith Gymraeg a chanu emynau, a gellir dadlau iddi greu’r ‘genedl gerddorol’ y mae’r Parchedig Eli Jenkins yn cyfeirio ati gyda'r fath barch yn Under Milk Wood.
 

Ond y pris a dalwyd am yr holl emynau a chorau meibion hynny oedd y caneuon gwerin hŷn yr oedd Methodistiaeth yn teimlo’r rheidrwydd i’w llwyr ddinistrio ar eu coelcerth o buro ysbrydol, ynghyd â’r arferion ‘cythreulig’ a chysylltai â nhw. Mae rhai o'r hen alawon ond yn goroesi oherwydd eu bod wedi'u haddasu gan emynwyr Cymru. Mae eraill yn cael eu cadw yn yr archifau, yn aros fel preswylwyr yng nghartref cŵn yn disgwyl cael eu dewis, eu cymryd i ffwrdd a chael bywyd newydd gan geidwaid newydd …fel VRï.
 

Felly i greu gwlad y gân, bu'n rhaid i Fethodistiaeth ddinistrio llawer o ganeuon. Magwyd tri aelod VRï gyda'r eironi hwnnw; fe luniodd pwy ydyn nhw ac mae bellach yn ysgogi eu taith gerddorol. Ganwyd a magwyd Patrick Rimes yn y dref lechi ogleddol Bethesda yn Nyffryn Ogwen, lle siaredid Cymraeg ym mhobman, ac eithrio yng nghartref Rimes. Roedd emynau'n atseinio yng nghapeli'r dref ac yn cael eu cario allan ar yr awel i strydoedd a thafarndai myglyd ac ystafelloedd ffrynt, gan golli eu cysylltiad â chrefydd ar hyd y ffordd. Gartref, roedd mam yn chwarae'r ffliwt, ac roedd cerddoriaeth yn cael ei chyflwyno drwy Radio 3 a 4. Roedd Dad, dros y môr yn Iwerddon, yn chwarae mewn band gwlad a gwerin.
 

Aeth Patrick i ysgol leol lle’r oedd pawb yn y côr, waeth beth fo’u gallu lleisiol, ac roedd ambell hen biano a ffidil rad wedi’u darparu ar gyfer unrhyw freuddwydion o fawredd cerddorol. Yn 9 oed, dechreuodd Patrick fynychu gweithdai ffidil a gynhaliwyd gan COTC (Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru, 'Clera' erbyn hyn) sesiynau alawon misol yn nhafarn chwedlonol y Nelson ym Mangor, gan ddychwelyd i’r ysgol drannoeth gyda'i ddillad yn drewi o fwg sigaréts. "Dydw i ddim wedi edrych yn ôl o chwarae cerddoriaeth draddodiadol ers hynny mewn gwirionedd,” meddai’r gŵr a gafodd ei goroni’n ddiweddarach yn bencampwr ffidil iau Cymru ddwywaith a dod yr unig gerddor (erioed?) i ennill y ‘Rhuban Glas’ hynod fawreddog yn Eisteddfod Môn am berfformiad traddodiadol yn hytrach na pherfformiad clasurol.
 

Yn nhref enedigol Jordan Price Williams, Cwmafan, i'r gogledd o Bort Talbot, roedd cynifer o dafarndai ag yr oedd o gapeli. Canwyd emynau yn yr olaf fel rhan o'r gwasanaeth, ac yn y cyntaf am y llawenydd syml o fod yn fyw ac yng nghwmni cyfeillion a theulu. Pan anfonwyd ef i ysgol breswyl yn Aberhonddu yn 13 oed gan ei dad oedd yn y fyddin, fe brofodd ddatgysylltiad dwys oddi wrth ei hunaniaeth Gymreig a'i ddiwylliant Cymreig. “Dyma'r prif sbardun y tu ôl i bwysigrwydd y gerddoriaeth [werin Gymreig] hon i mi o hyd a dweud y gwir,” meddai. Ond yn yr ysgol honno y cychwynnodd ei daith gerddorol: gwersi piano, sielo, cymysgedd o emynau Cymraeg a Saesneg yng nghapel yr ysgol a chantatau Bach er mwyn ymlacio.
 

Arferai rhieni Aneirin Jones fynd ag ef i’r ŵyl werin yn eu tref enedigol ym Mhontardawe gyda’i chwaer a’i frawd hŷn. Roedd y plant i gyd yn chwarae offerynnau ac yn cynnal sesiynau cerddoriaeth werin rheolaidd gartref, yn aml yn canu o amgylch y piano, ac yn achlysurol yn rhoi perfformiadau cyhoeddus yn lleol fel ensemble teuluol. “Sbort” oedd gwersi ffidil yn yr ysgol; i ffwrdd o'r ysgol, roedd cerddoriaeth yn ymwneud mwy â gitarau swnllyd a The Clash. Dechreuodd fynychu sesiynau jamio rheolaidd yn Nhŷ Tawe, canolfan ddiwylliannol Gymraeg yn Abertawe gyda’i chwaer, lle’r oedd rhai o enwau mawr sin gerddoriaeth draddodiadol Cymru (“cynhalwyr traddodiad” fel mae Aneirin yn eu galw), yn mynychu'n rheolaidd. Y Sesiynau Gwerin Cymreig oedd ei gamau cyntaf i’r byd gwerin, ac roedd ysbryd hael y sîn honno ac absenoldeb cerddoriaeth ddalen neu gyfyngiadau clasurol yn ddeniadol iawn. Yn 14 oed, aeth Aneirin i Sorefingers, gwersyll canu'r Tir Glas yn Rhydychen. Gwelodd pobl o'i oedran ei hun yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol, rhannodd yn y cyffro hwnnw gyda nhw (ochr yn ochr â pheint bach slei) a rhoddwyd hwb i’w frwdfrydedd bythol at gerddoriaeth werin draddodiadol.
 

Ar ôl coleg (mynychodd Patrick a Jordan ill dau Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd gan gwrdd am y tro cyntaf yno, ac aeth Aneirin i Gonservatoire Brenhinol yr Alban yng Nglasgow) dechreuodd y tri wneud eu marc ar sîn gerddoriaeth draddodiadol Cymru, a oedd yn fach ond yn ffynnu. Roedd Patrick yn un o sylfaenwyr Calan, math o uwch-grŵp traddodiadol Cymreig, a gyda chefnogaeth cwmni Recordiau Sain, fe wnaethant ati i arloesi a datblygu’r ffordd ar gyfer llawer o gerddorion traddodiadol ifanc i’w dilyn yn ddiweddarach. Mae'n cofio recordio Bling, albwm cyntaf Calan yn 2008 wrth sefyll ei arholiadau TGAU. Wedi hynny, daeth teithiau o amgylch Ewrop ac UDA. Yn ddiweddarach chwaraeodd Patrick yn y Cerys Matthews Band, gan droedio'r ffin rhwng Cymreictod ac Americana.
 

Roedd Jordan yn amrywio rhwng chwarae’r bas dwbl, y chwiban, y pibau Cymreig a’r harmoniwm, ac yn canu yn Gymraeg a Saesneg, yn Elfen a No Good Boyo. Mae Aneirin hefyd yn aelod o No Good Boyo. Mae’r tri yn aelodau o’r uwch-grŵp Cymreig 20 aelod, Pendevig, sy’n adnabyddus am eu hasiadau hynod nerthol o gerddoriaeth werin Gymreig a roc, ffync, rap, ac electro.
 

Felly pam VRï? Siawns, fod eu dyddiaduron cerddorol yn ddigon llawn yn barod. Daeth y triawd at ei gilydd am y tro cyntaf yn Sioe Nadolig Bryn Terfel, 'Nadolig Bryn Terfel', a ddarlledwyd ar S4C ym mis Rhagfyr 2014. Patrick oedd y cyfarwyddwr cerdd, ac roedd Aneirin a Jordan yn y band tŷ am yr wythnos. Fe wnaethant ddarganfod yn ei gilydd awydd cyffredin am ymagwedd newydd tuag at gerddoriaeth draddodiadol, yr angen am gaen fanylach, cyffyrddiad mwy cynnil er nad o reidrwydd yn fwy astrus a allai fynd y tu hwnt i flociau adeiladu cerddoriaeth werin draddodiadol o alaw ar y top, cordiau yn y canol, grŵf ar y gwaelod.
 

Roedd hyn yn adlewyrchiad cywir o bwy oedden nhw: offerynwyr medrus a Chymry balch, mewn cariad â’u hiaith, eu diwylliant, eu cerddoriaeth, ond gyda’u meddyliau’n agored iawn, yn enwedig i gerddoriaeth glasurol a’i chymhlethdodau heriol. Roedd Patrick yn arwain Cerddorfa Symffoni Prifysgol Leeds ar y pryd, gan deithio gyda nhw yn Ffrainc, yr Almaen a Sbaen. Roedd hefyd wedi helpu i ffurfio Camerata Gogledd Cymru, gyda'r nod o wthio cerddoriaeth siambr i uchelfannau newydd o sgil a chyffyrddiad. Y cam nesaf amlwg oedd ceisio cymhwyso cynildeb cerddoriaeth siambr i’r hen emynau hynny yr oedd y tri wedi eu canu a’u chwarae ers yn blant, neu i’r alawon yr oeddent wedi dechrau eu darganfod yn adran cerddoriaeth ddalen Llyfrgell Genedlaethol Cymru, neu CLERA, sef Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru.
 

Roedd Jordan hefyd yn dyheu am symud i ffwrdd o'r bas dwbl, gyda'i symlrwydd melodaidd gorfodol, ac yn ôl i'r sielo. Ac er ei fod wrth ei fodd o hyd â rhyddid cerddoriaeth gwerin a thraddodiadol, roedd Aneirin bob amser yn ymwybodol o gyhyr nad oedd yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol, cyhyr lle’r oedd ei gryfder potensial yn seiliedig ar gymhlethdod dyfnach a beiddgarwch cerddorol yn hytrach nag ar hyfedredd disglair.
 

“Er mwyn i gerddoriaeth draddodiadol fod ar gael i bawb, mae’n rhaid iddi fod yn hygyrch,” eglura Patrick. “Pe bai’n gymhleth, byddai’n ddibwrpas oherwydd byddai’n ecsgliwsif.  Ac nid yw'r ffaith ei bod yn syml yn ei diraddio'n artistig. Mewn rhai ffyrdd, mae'n ffrydio emosiwn a theimlad ynghyd mewn modd purach, oherwydd mae'n cario cannoedd o flynyddoedd o gof gyda hi hefyd. Ond mae'n beth dynol iawn i eisiau, neu feddu ar angen hyd yn oed, i fynd ati i ddatblygu a herio popeth ar ryw adeg ... nid oherwydd y credwn ein bod yn gwella unrhyw beth, ond jest yn ceisio ei ddeall ychydig yn well".

 

Yn ôl Patrick, roedd albwm cyntaf VRï, Tŷ Ein Tadau, a ryddhawyd yn 2018, “yn teimlo fel “ramraid”, “gwibiad brys o gwmpas archfarchnad”, neu “yn chwiliad am hunaniaeth sonig.” Hynny yw, datganiad o fwriad. Neu hyd yn oed, fel yr awgryma Jordan, dial: yn erbyn yr amheuwyr, y sinigiaid, y rheiny sy’n difetha hwyl, ddoe a heddiw.
 

Roedd gan y ffans a'r beirniaid eu barn eu hunain am Tŷ Ein Tadau: Dywedodd Adam Walton o BBC Radio Wales ei fod yn 'f**king brilliant.' Soniodd Folk Wales am 'gemeg hudol sy'n hollol ddryslyd, sy’n mesmereiddio ac sy’n hollol gyfareddol.' Enillodd yr albwm wobrau’r Albwm Gorau a’r Trac Traddodiadol Gorau Gymraeg yng Ngwobrau Gwerin Cymru, enwebiad yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 ac enwebiad am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Gwahoddwyd VRï i gynrychioli Cymru yn Last Night of the Proms, ochr yn ochr â’r gantores, awdur a bardd Beth Celyn, un o gydweithredwyr agosaf y band, y mae ei pherfformiadau gwych o hen alawon traddodiadol, yn enwedig am ferched, wedi gwneud llawer i ehangu cwmpas thematig a naratif VRï.
 

Ond os mai ramraid, bombardiad agoriadol, dialedd oedd yr albwm, nid yw'r geiriau hynny'n berthnasol i'r albwm newydd: islais a genir. “Mae’n teimlo’n debycach i dderbyniad,” meddai. “Nid yw traddodiad y capel yn fygythiad bellach. Nid oes llawer o bobl yn mynd i'r capel bellach, felly'r prif bwrpas yw ceisio darganfod beth oedd yno o'r blaen. Sut y dechreuodd y cyfan.”
 

Mae Patrick yn cadarnhau: “Mae’r albwm hwn yn ymwneud mwy ag enaid y gerddoriaeth, sut mae’n cyd-fynd â’n hunaniaeth ni fel pobl.” Dyma gân serch y triawd i’r  hen, oherwydd “ni sydd piau’r hen,” (Jordan). “Os nad yw’r Cymry yn ymgysylltu â hi, nid oes o reidrwydd unrhyw reswm i bobl eraill ymgysylltu â hi ‘chwaith.” Ac oherwydd bod yr hen yn ein dysgu ni pwy ydyn ni. “Mae angen yr hen arnom oherwydd nid oes unrhyw draddodiad byth yn mynd i ffwrdd mewn gwirionedd,” mae Jordan yn parhau. “Mae’n diferu’n gyson i’r presennol. Mae pobl yn dysgu, mae barnau’n cael eu ffurfio, ac mae greddfau mwy cynhenid yn cael eu datblygu o'r hyn a ddaeth o’n blaenau.”

 

Ond nid yw eu cariad yn ddall. Gwyddant nad yw pob peth hen yn werth ei achub. Mewn gwirionedd, nid yw llawer o'r alawon sy'n hel llwch yn yr archifau mor arbennig â hynny. A gellir, ac fe ddylai rhai 'traddodiadau', fel homoffobia neu oruchafiaeth y batriarchaeth, gael eu gollwng yn dawel bach.

Beth bynnag, bydd cân serch i’r hen, os caiff ei chanu gyda doethineb, sgil ac angerdd, bob amser yn gân serch i’r newydd. Ar gyfer y presennol. Ar gyfer oes. Mae'r cymeriadau sy’n llenwi caneuon VRï - aradwyr, merlod pwll glo, recriwtiaid newydd, llaethferched, porthmyn - yn dod yn fyw yn y dychymyg pan sylweddolwn eu bod yn cyfateb yn yr oes sydd ohoni â gweithiwr contract dim oriau, i fam sengl neu i ofalwr yn y cartref. Y bobl sy'n brwydro ar waelod y domen. Yn y bôn, mae eu cân yn aros yr un fath. Dim ond yr arddull, yr ymddangosiad sonig sy’n newid.

Efallai bod rhai o’r alawon yn repertoire VRï yn ddau gan mlwydd oed a mwy, ond eu bwriad yw gwneud iddynt deimlo’n hynod o fyw. “Mae’r ffordd rydyn ni’n gwneud ein cerddoriaeth yn llawn perygl,” meddai Patrick. “Dw i’n dyfalu os oeddech chi mewn band gyda drymiwr neu chwaraewr bas, maen nhw’n angor, yn eich cadw chi ar y ddaear. Ond rydyn ni fel tair balŵn heliwm yn troi o gwmpas ein gilydd… [a] phan fydd yr egni hwnnw o’r gerddoriaeth siambr yn digwydd, mae'n digwydd go iawn ... gall deimlo ychydig fel eich bod chi’n hedfan [neu] yn arnofio oddi ar y ddaear.

Mae Jordan yn ei gymharu â rhaff dynn. Ar y naill ochr a'r llall, mae'r gerddoriaeth yn iawn, yn ddigon derbyniol. “Ond stribyn bach hynod fain i lawr y canol yw ble mae’r hud a lledrith, ac mae'n hynod anodd aros yn y fan honno. Weithiau, os ydych chi'n meddwl am y peth, rydych chi'n syrthio i ffwrdd. Ond os nad ydych chi'n meddwl am y peth, yna gadewch iddo ddigwydd...sai’n gwybod"

Dyna ystyr enw VRï yn yr hen Gymraeg: 'codi', ‘esgyn'. “Math o ymadrodd cyffredinol am 'fod i fyny fry'” (Patrick). I fyny a throsodd y Wal Berlin honno, neu efallai’n eistedd arni, yn chwifio'ch crys yn yr awyr, yn canu er mwyn pleser pur, yn chwarae eich ffidil fel bod rhwymau ddoe wedi toddi i ffwrdd, ac mae yfory yn ddiarwybod.
 

bottom of page