top of page

NODIADAU CANEUON, islais a genir

 

GAN ANDY MORGAN

1  Y Gaseg Felen (02:18)

 

Mae’n gweld y gaseg i fyny ar y bryn, yn bictiwr o ryddid, ac mae'n breuddwydio am brofi'r un rhyddid yn ei fywyd ei hun, rhyddid yr wylan sy’n hedfan dros y môr, rhyddid carw sy’n crwydro’r goedwig. Ond yna mae realiti’n cydio: merlen pwll glo yw'r gaseg, sy'n cael ei gorfodi i lafurio am oriau yn yr uffern dywyll a llychlyd honno. Felly pam breuddwydio am ryddid dychmygedig? Bydda'n fodlon dy fyd yn aredig, meddai wrtho'i hun. Am gyd-destun 'aredig', meddyliwch am ganolfan alwadau, meddyliwch am gartref gofal, meddyliwch am ganolfan ddosbarthu ddiflas neu am yrrwr danfon nwyddau ar gontract dim oriau. Meddyliwch am frwydro i oroesi. Gwnewch hynny a bydd gan y gair 'aredig' ystyr cwbl newydd. Yna meddyliwch am y breuddwydiwr yn dweud, 'O wel, o leiaf gallaf aredig.'

 

2  Aberhonddu (04:29)

 

Dau gan mlynedd yn ôl, roedd milwr o’r enw TI Williams yn paratoi i adael ei farics yn Aberhonddu i fynd i Guernsey, ynys strategol allweddol yn sgil Rhyfeloedd Napoleon. Roedd y rhyfeloedd hynny yn pwyso'n drwm ar feddwl ein recriwt ifanc; roedd llawer o bobl o'i gymuned wedi gadael i ymladd ynddynt, byth i ddychwelyd; ac efallai'n wir y byddai disgwyl iddo yntau hefyd wneud yr aberth eithaf. Roedd bryniau gwyrddlas y dirwedd gyfagos yn hynod brydferth ar y noson olaf honno. Dyma oedd ei gartref, y man lle cafodd ei eni, lle'r oedd ei fam a'i dad yn byw, dyma lle'r oedd popeth oedd yn annwyl iddo yn bodoli. Rhoddodd yr holl deimladau hynny, yn y gân hon. Roedd tad Jordan hefyd yn filwr a'i enw ef hefyd yw T Williams. Am gyfnod, bu'n gweithio yn yr un barics â'r gŵr o'r un enw ag ef o ddechrau'r 19eg ganrif - sef y Watton yn Aberhonddu. “Bu farw fy nhad naw mlynedd yn ôl, felly pan welais flaenlythrennau’r awdur, roedd yn eiliad o gyd-ddigwyddiad iasol,” meddai. “Roedd fy nhad yn ddyn balch iawn a gredai fod ei ymrwymiad i’r fyddin yn dod cyn unrhyw beth arall. Felly mae'r gân hon yn ymwneud ag aberth, ydy, ond yr hyn sy'n fy nenu fwyaf ati yw gwybod mai nad un aberth yn unig y byddai'r dyn hwn wedi’i wneud, ond cannoedd o rai bach ym mywyd bob dydd, yn union fel y gwnaeth fy nhad. Mae'n debyg mai dyna'r prif naratif dynol sy'n rhedeg trwy'r holl ganeuon hyn. Mae yna lawer iawn y gallwn i fod wedi ei ddweud wrth fy nhad cyn iddo farw, felly ar ryw lefel mae'r gân hon yn gatharsis i mi - ffordd o geisio deall y cyfaddawdau a wnaeth trwy eiriau rhywun a wnaeth rai tebyg ond mewn cyfnod gwahanol iawn.”

 

3  Y Gaseg Ddu (03:31)

 

Cân yw hon am gaseg ddu sy'n cael ei gwerthu i ddyn yn y ffair yn Hen Feddau ger Llanbedr Pont Steffan. Mae'n caru ei gaseg newydd gymaint nes ei fod yn rhoi bwyd, bwyd, a mwy o fwyd iddi. Yn y diwedd mae'r ceffyl yn marw o orfwyta, ond mae peth gwerth i'r carcas o hyd, felly mae'r brain a'r piod yn disgyn i lawr i drafod pris amdano. Yn y pennill olaf, mae’r dyn yn gofyn i aelodau ei gynulleidfa dalu ceiniog am glywed ei gân drasig er mwyn iddo allu fforddio ceffyl arall yn y dyfodol. Fe wnawn adael i chi ddod i gasgliad ynghylch moeswers y stori drist hon.

 

4  Yr Ehedydd (05:26)

 

Mae'r Ehedydd yn cyfuno tri darn offerynnol: Mae'r darn cyntaf yn glasur o'r repertoire Cymreig traddodiadol o'r enw 'Codiad Yr Ehedydd'. Nid unrhyw hen ehedydd serch hynny, ond yr ymladdwr dros ryddid mawreddog o Gymru Owain Glyndŵr, y cyfeiriwyd ato yn ystod ei frwydr dros annibyniaeth yn y 1400au cynnar gan ddefnyddio Yr Ehedydd fel nom de guerre yn y gobaith o ddrysu sabotwyr y gelyn. Defnyddiwyd y dôn yn ddiweddarach fel ymdeithgan gatrodol gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. “Mae eironi byddin Prydain yn defnyddio tôn sy’n dathlu buddugoliaethau mawr Glyndŵr yn erbyn y Saeson yn glir i ni,” meddai Patrick. Mae'r ail dôn, a elwir 'l'r Hen Ogledd', yn un wreiddiol gan Aneirin Jones mewn mydr 3/2 bywiog ond myfyriol, wedi'i hysbrydoli gan y teithiau diddiwedd yr arferai Aneirin eu gwneud rhwng De Cymru a Glasgow, sef 'yr hen Ogledd', lle bu'n astudio cerddoriaeth. Mae'r drydedd hefyd yn wreiddiol, y tro hwn gan Jordan, o'r enw 'Haf Bach Mihangel', rîl 3/2 sy'n dwyn i gof ddyddiau pêr diwedd yr haf yn nyffryn Afan brodorol Jordan.

 

5 + 6 Glanhafren (00:52) / Cainc Sain Tathan (03:04)

 

Mae hen dôn o'r llyfr emynau 'Glanhafren' yn ildio i 'Cainc Sain Tathan’, cân arall am yrru gwartheg (mae fel petai cymaint ohonyn nhw) o Forgannwg, y daeth y band o hyd iddi ar un o’u sesiynau rheolaidd o archaeoleg felodig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae caneuon am yrru gwartheg yn aml yn rhestru'r tirnodau y byddai’r porthmon wedi eu gweld, wrth iddo bwffian a chwysu o flaen yr anifeiliaid enfawr. Yn yr achos hwn, mae'r porthmon yn gwyro i fyd straeon tylwyth teg ac yn brolio am olygfeydd rhyfedd a swreal ar ei daith: Mi welais gath a chorgi / Yn tynnu cert yn handi / O Bontypridd i lawr y fro / Â llwyth o lo i'w losgi  neu 'Mi welais ddwy lygoden / Yn llusgo 'coach' yn llawen / O'r Ewenni i Gaerdydd / Â llestri pridd a halen.' Erbyn diwedd y gân, wrth i’r porthmon ddychwelyd adref, mae teimlad barddonol symlach yn mynnu ei le unwaith eto: ‘Mi wela’r ardal dirion / Lle’m ganed, a’i thai gwynion / Pan fwyf ym Mro Morganwg fwyn /Bryd hynny cwyn fy nghalon.'

 

7  March Glas (02:46)

 

Cân i frolio yw hon yn ei hanfod, ymffrostio’r 18fed ganrif ar ei orau. Mae gen i farch glas / Yn towlu ac yn tasgu / Yn waeth nag un march / Yn Sir Aberteifi / Mae gen i got fain / O waith teilwr Llunden ac ati. Ai ceisio denu menyw oedd y canwr? Wyddon ni ddim, ond os felly, mae pennill olaf y gân yn awgrymu siwrnai anghysurus adref ar ei ben ei hun: ‘Lili wen fach / ar ochor y cloddie / yn y ‘nhwyllo i’r nos / i dreilio fy sgidie.'

 

8  Glan Meddwdod Mwyn (03:35)

 

Hen alaw enwog, yn araf ac yn urddasol o ran ei phrydferthwch, sy'n ennyn balchder a hiraeth. Bu bron iawn iddi ddod yn anthem genedlaethol Cymru cyn cyfansoddi 'Hen Wlad fy Nhadau'. Yn y fersiwn sy’n cael ei chanu, mae’r geiriau’n mynd ar drywydd hiraeth a chariad tuag at gartref, tra bod y dôn ei hun yn parhau’n sobr ond eto’n hynod emosiynol. Rhyfedd felly bod y teitl wedi’i gyfieithu fel 'Good Humored and Slightly Drunk'. Datganiad cenhadaeth rhagorol.

 

9  Y Cap o Las Fawr (gyda/ft. Beth Celyn) (04:03)

 

Dyma hen gân o Ynys Môn sydd wedi’i haddasu gan Beth Celyn. Mae hi’n canu’r gwreiddiol ac yna’n ychwanegu ei barddoniaeth lafar ei hun, gan gydblethu’r Gymraeg a’r Saesneg, yr hen a’r newydd. Menyw sy’n adrodd. Mae ei chwaer Mari yn berchen ar gap les mân, ac mae’n ystyried tybed a all hi brynu un ei hun heb i Siôn ddod i wybod. Rhaid tybio mai Siôn yw ei gŵr. “Mae’r cap les yn symbol o ryddid,” eglura Beth, “ac o hawl menyw i deimlo awydd a gwneud ei phenderfyniadau ei hun a gweithredu arnynt.” Mae Beth yn ehangu cwmpas gwreiddiol y gân gyda barddoniaeth yn llawn delweddaeth les, “rhywbeth sy’n addurniadol, yn dyner, ac eto’n gryf.” Gyda’i llinell let’s weave a constellation of lace, mae’n bwriadu “anadlu anadl o bosibilrwydd di-ben-draw i’n cerddoriaeth a dod â chyffredinolrwydd i lais menyw o ganrifoedd a fu, fel ei bod yn berthnasol i bob merch heddiw.” Gobeithia y bydd ei geiriau’n ysbrydoli’r gwrandawyr i gwestiynu a dadansoddi’r hyn rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol – rhywedd, hunaniaeth, awydd menywod a grymuso – ac y bydd y “pocedi dealltwriaeth” bach a gynigir gan y geiriau Saesneg yn galluogi’r gwrandäwr i fentro ymhellach i ystyr y gân, tra'n gwerthfawrogi natur gerddorol y Gymraeg.

 

 

10  Y Foel Fynydda (06:14)

 

Sut brofiad oedd bod yn hoyw yng Nghymru ddau gan mlynedd yn ôl? Mae yna lawer o straeon am ddynion ifanc a gymerodd eu bywydau eu hunain oherwydd na allent wynebu'r posibilrwydd o fyw mewn byd a oedd mor boenus o anoddefgar. Comisiynwyd Jordan gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddarganfod lleisiau newydd yng Nghwm Afan ac ysgrifennu darn oedd yn eu hymgorffori. Yma, mae'n gosod ei lais ei hun i gerddoriaeth, ond yn ei osod mewn cyd-destun hanesyddol sy'n ail-ddychmygu dioddefaint dynion hoyw yn y canrifoedd a fu. Mae ‘na bennill traddodiadol o Gwm Afan ar ddechrau ac ar ddiwedd y darn sy'n sôn am dirnodau lleol, yn arbennig mynydd o'r enw Foel Fynyddau, ac mae'r pennill olaf yn crynhoi dywediad lleol: “Os yw Foel Fynyddau’n gwisgo ei chap (h.y. cwmwl) yn y bore, yna edrychwch arni ganol dydd a bydd ganddi ddagrau (h.y. glaw) ar ei gruddiau.” Ym mhenillion Jordan, mae'r ddau gariad gwrywaidd yn mynegi eu teimladau tuag at ei gilydd am y tro cyntaf ganol dydd, yn union wrth i Foel Fynyddau ddechrau crio. Yn ddiweddarach, ar ôl i Daniel gael ei orfodi i briodi menyw, mae'n camu i ddyfroedd dugoch Afon Afan ac yn boddi. Diolch byth, mae’r oes wedi newid, er bod agweddau negyddol tuag at y gymuned LGBTQ+ yn parhau. Ond mae’r gân hon yn cofio brwydrau torcalonnus cenedlaethau a fu, ac yn eu hanrhydeddu yng nghyd-destun cerddoriaeth draddodiadol Cymru.

 

11  Gwenno (03:53)
 

Cyflwynir y trefniant offerynnol hirfaith hwn mewn pedwar symudiad, wedi’i rannu dros ddau ddarn, i ffrind annwyl y band Gwenno Roberts a’i babi newydd Eiri Elias. Y cyntaf o'r pedwar symudiad yw tôn o'r enw 'A Ei Di'r Deryn Du', hen gân Gymreig sydd i'w chlywed mewn sawl cyd-destun gwahanol yn wreiddiol. Ond y fersiwn arbennig hon, a ddysgodd VRï gan Gwenno ar ei ffidil, yw'r harddaf yn sicr, ac mae hithau’n ei chyfoethogi gyda’i naws gyfoethog, felfedaidd. Mae thema’r gân, sef adar yn cael eu hanfon fel negeswyr cariad, yn drosiad cyffredin yn y traddodiad Cymreig. Mae'r ail symudiad yn glasur yn repertoire'r delyn deires, sef 'Y Purail Fesur'. Mae’n alaw araf y mae VRï wedi'i hail-ddychmygu fel jig felodaidd. Yn ôl Patrick, tŷ Gwenno yn Abergwyngregyn sy’n cynnal y partïon gorau oll, ac mae’r dôn hon yn ei atgoffa o fam Gwenno, Rita, sydd bob amser yn erfyn ar westeion i dawelu pan fydd y telynor Robin Huw Bowen ar fin chwarae. Mae dehongliad Robin o’r alawon hyn heb ei debyg, a gall gyfareddu ei gynulleidfa am oriau.

 

12 Eiri (06:27)
 

Mae ‘cyfres’ Gwenno yn parhau o dan faner newydd: enw merch newydd-anedig Gwenno. “Rwy’n hoff iawn ein bod ni’n edrych ar hen straeon ac yn myfyrio arnyn nhw,” meddai Jordan, “ond mae bwriad enfawr y tu ôl i bob stori, ac mae hynny’n wir am straeon newydd a phobl newydd hefyd.” Nid oes unrhyw stori mor newydd â bywyd sydd jest wedi dechrau, felly croeso Eiri, croeso i'r byd cerddorol hwn. Mae symudiad rhif tri yn y gyfres yn gyfansoddiad gwreiddiol gan Patrick o’r enw ‘Cwrtia’, sef enw cartre teuluol Gwenno: “Lleoliad hudolus gyda mynyddoedd Eryri’n codi o gefn yr ardd, a’r Fenai nid nepell o’r drws blaen," meddai Patrick. Enw'r symudiad olaf yw 'Croeso Eiri', a gyfansoddwyd ar y cyd gan y band ychydig cyn i Eiri gyrraedd y ddaear. Y mydr yw cabm pemp, sy'n golygu 'pum cam' yn y Gernyweg, a fenthycwyd gan y band o’u cefndryd Celtaidd yn y gobaith o'i wneud yn un o glasuron y traddodiad Cymreig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

13  Canu’r Canrifoedd (gyda/ft. Beth Celyn) (01:59)
 

Fe ymchwiliodd Beth Celyn i fywyd llaethferch y 19eg ganrif a darganfod y cymysgedd rhyfeddol o gryfder a thynerwch oedd ei angen ar gyfer gwneud y gwaith. Ymatebodd i'r hyn a ganfu gyda'i barddoniaeth ei hun, gan anfon meddyliau a chwestiynau yn ôl ar hyd y canrifoedd. “Wrth ysgrifennu’r farddoniaeth ar gyfer Y Cap o Las a Brithi i'r Buarth, roeddwn i'n ystyried sut i gysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol," mae hi'n ysgrifennu yn ei nodiadau ei hun i'r gân (y gallwch chi eu darllen yn URL). Mae'n fwriad sydd wedi'i gipio’n hyfryd yn ei llinellau Cymraeg ‘Canaf nodau’r canrifoedd - plygu rhythmau’r / Hen alwad â’i hymestyn  dros y caeau’. Mae hi'n myfyrio ynghylch pwy oedd y llaethferch hon, y wraig cig a gwaed go iawn. Beth oedd ei gobeithion a'i breuddwydion, ei hofnau? Roedd hithau’n ymroddedig i'w buches, ond pwy oedd yn ymroddedig iddi hi? I pave their path, but who paves mine? Wrth ymchwilio i’r gân, atgoffwyd Beth yn boenus o ba mor ormesol oedd y batriarchaeth yng Nghymru’r oes a fu, a pha mor bell yr ydym wedi dod o ran cydraddoldeb.

 

14  Brithi i’r Buârth (gyda/ft. Beth Celyn) (04:16)
 

Mae llaethferch yn canu ei chân i dywys y gwartheg i'r sied odro. Nid tasg hawdd yw bod yn llaethferch yng Nghymru'r 19eg ganrif. Mae angen cryfder arni i odro'r holl wartheg, a'u cael nhw i fod lle mae hi eisiau iddyn nhw fod. Yn ogystal, mae angen addfwynder arni i feithrin perthynas gyda phob un ohonynt a’u cadw’n dawel yn ystod y godro. Mae’n rhaid ei bod hi’n adnabod pob buwch yn y fuches yn ôl ei henw, ac mae tair ohonyn nhw’n cael eu crybwyll yn y gân: dwy - Brithi a Seren - sydd yn y geiriau gwreiddiol, a thrydedd - Moli - wedi’i henwi gan y band ar ôl llamgi Jordan a’i bartner Glenn. Casglwyd y gân gan yr annwyl Edward Williams, neu Iolo Morganwg i ddefnyddio ei enw barddol. Mae'n anodd gwybod a gafodd y gân ei chasglu neu ei 'bathu', o ystyried doniau sylweddol Iolo fel ffugiwr. Heblaw am ei gamweddau achlysurol, gweithiodd Morganwg yn ddiflino i guradu hunaniaeth gerddorol sir Forgannwg a VRï , ynghyd â ffans cerddoriaeth draddodiadol Cymru eraill, sy'n elwa o'i ymdrechion. Yn ei chyfrol Welsh Traditional Music, mae Phyllis Kinney yn nodi bod gan y gân ryddid rhythmig anarferol sy’n adlewyrchu arddull cân y llaethferch, gyda’i llafariaid hir ac ymadroddion a oedd yn taflu ei llais yn eang er mwyn dod â’r gwartheg adref.

 

 

15 Briallu Mair (04:04)

 

Carol yw hon, sy’n cael ei chanu er clod am yr haf yn hytrach na chanol gaeaf, ac a gasglwyd o gasgliad rhyfeddol Sioned Webb ac Arfon Gwilym. Mae’n dathlu dychweliad bywyd a lliw i’r dirwedd, deffroad byd natur, aileni’r cloddiau a’r caeau. ‘Wele daeth briallu Mair a llygad dydd ar hyd y ddôl,” dywed y geiriau, “Cioliodd henaint daear lwyd / a daeth ieuenctid yn ei ôl; / Lle bu ddistaw lonydd lwyn / Y deffry eto leisiau fyrdd; / Dewin tes sy’n dwyn y tir / O dan ei rywd o dyner wyrdd.' Mae'r gwanwyn yn dal i wneud i ni deimlo llawenydd, i deimlo rhyddhad, ac yn rhoi hwb i’n hysbryd. Ond dychmygwch ryddhad ein cyndeidiau pan welsant y gwyrddni a’r glesni yn dychwelyd a therfyn ar 'farwolaeth' hir diwedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'r darn offerynnol yn dôn arall o gasgliad Iolo Morganwg, sylfaenydd yr Eisteddfod, cyndad mentrus adfywiad cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Gelwir y darn hwn yn 'Hwn a Glywais Mewn Eglwys yn Sir Frycheiniog.' Fe wnawn adael i chi ddychmygu beth yn union a glywyd.

bottom of page