Ble mae'n digwydd?
"Y profiad mwyaf anhygoel. Diolch yn FAWR - mwy cyn bo hir ar ôl i mi brosesu'r cyfarfod rhyfeddol hon o bobol. Arbennig IAWN..."
Beth yw ffidil fawr?
Ymdrwythwch eich hun yn y Traddodiad Cymreig: Darganfyddwch alawon hyfryd a thonau dawns bywiog sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, gan ddysgu’r arddull a’r rhythmau unigryw sy’n diffinio cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.
Cyfuniad o Draddodiad a Thechneg: Mae ein gweithdai’n cyfuno bywiogrwydd a chreadigrwydd chwarae traddodiadol gyda ardull dysgu clir a hygyrch, gan roi dull cynhwysfawr i chi ddatblygu a gwella.
Mireiniwch Eich Sgiliau: Boed eich bod eisiau datblygu eich techneg, archwilio byrfyfyrio, neu ddyfnhau’ch mynegiant cerddorol, byddwn ni yma i’ch tywys bob cam o’r ffordd.
Croeso i Bob Lefel: Boed eich bod yn chwaraewr profiadol neu’n dechrau ar eich siwrne gerddorol, dyma'r digwyddiad i chi. Dysgir y dosbarthiadau’n bennaf drwy’r glust, ond bydd cerddoriaeth ysgrifenedig ar gael i’r rheini sy’n ei ffafrio.
Chwarae a Pherfformio Gyda’n Gilydd: Cydweithiwch mewn grwpiau bach, mwynhewch sesiynau jamio anffurfiol, ac ymunwch â ni ar gyfer y Cerddorfa Ffidil Fawr—cerddorfa fawr o ffidilau sy’n dod â phawb at ei gilydd mewn dathliad llawen o unrhywbeth a phopeth gyda bwa!
Ar ôl llwyddiant ysgubol ein Ffidil Fawr gyntaf erioed, rydyn ni’n ôl eleni gyda dathliad enfawr arall o'r traddodiad Ffidil Cymreig.
Wedi’i chynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dyma’ch cyfle i chwarae, dysgu, a chysylltu ag eraill sy’n caru’r traddodiad hwn ac sydd â brwdfrydedd i fynd yn ôl at wreiddiau’r cerddoriaeth.
Fel eich gwesteiwyr, rydym ni—VRï, y triawd siambr-werin aml-wobrwyol o Gymru—yn edrych ymlaen yn arw i rannu ein cariad at y gerddoriaeth hon gyda chi. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn hwyluso chwarae llinynnol traddodiadol Cymreig i bawb. Mae ein dulliau dysgu’n glir, yn gefnogol, ac yn addas i’ch helpu chi ddatblygu technegau newydd a magu hyder, waeth beth fo’ch pwynt cychwyn.
Bydd y cwrs yn digwydd rhwng dydd Iau 25ain a dydd Sul 28ain Medi 2025.
Ishe gwylio fideo yn hytrach na darllen? Mae’r ffilm ddogfen ddeg munud yma am ein penwythnos ffidil Cymreig cyntaf yn rhoi syniad gwych i chi o’r hyn i’w ddisgwyl!
Eleni, rydym ni’n hynod gyffrous i groesawu’r wych Angharad Jenkins i’n grŵp tiwtoriaid. Nid yn unig mae Angharad yn un o chwaraewyr ffidil mwyaf dawnus Cymru, ond hefyd yn gantores a chynhyrchydd cerddoriaeth alt-pop sydd ar fin dod i’r brig. Bydd hi’n arwain y grŵp gyda rhythm ysgafn, gan gynnig lle hamddenol a meddylgar i ddatblygu eich sgiliau.
Mae’r cwrs ar agor i chwaraewyr llinynnol o bob lefel a phrofiad; felly, boed eich bod yn ffidlwr werin profiadol, wedi chwarae cerddoriaeth o genres eraill ac wastad wedi eisiau rhoi tro ar gerddoriaeth draddodiadol, neu os ydych newydd ddechrau chwarae’ch ffidil, mae’r penwythnos hwn yn un i chi! Bydd y dysgu’n cael ei wneud yn bennaf drwy’r glust, ond bydd cerddoriaeth ysgrifenedig ar gael ar gyfer pob elfen o’r cwrs ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno darllen.
Bydd Ffidil Fawr 2025 yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Dysgu Awyr Agored Y Stagbwll (Stackpole Centre) yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hardd.
Mae gan Y Stagbwll amrywiaeth o ystafelloedd ar gael, gan gynnwys ystafelloedd sengl, dwbl, ac ystafelloedd dau wely, yn ogystal â ystafelloedd rhannu. Mae rhannu ystafelloedd wedi profi’n opsiwn poblogaidd, gyda llawer o bobl yn gwneud ffrindiau gwych gyda’u cyd-ddisgyblion; fodd bynnag, os ydych chi'n dod gyda grŵp o ffrindiau, gallwch roi gwybod i ni eich bod eisiau rhannu ystafell a byddwn yn ei neilltuo ar eich cyfer chi.
Os ydych yn byw’n lleol neu mae’n well gennych chi drefnu eich llety eich hun, gallwch archebu tocyn ar gyfer y cwrs yn unig.
Mae cinio a swper yn cael eu cynnwys gyda phob tocyn cwrs, a bydd brecwast yn cael ei gynnwys gyda phob archeb llety. Mae gan Canolfan Stackpole gysylltiadau teithio hwylys gyda ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mewn car, mae’r daith yn cymryd tua 2 awr 30 munud o Gaerdydd, 1 awr 45 munud o Abertawe, 4 awr o Birmingham neu Wrecsam, a 3 awr 30 munud o Fryste. O ran trafnidiaeth gyhoeddus, mae’r orsaf drenau agosaf ym Mhenfro, gyda gwasanaethau o Gaerdydd ac Abertawe yn cymryd tua 3 awr. Gall tacis lleol neu fysus gwblhau’r cam olaf i'r Stagbwll, ac yn ogystal rydym yn gallu trefnu casglu’r rhai sy’n teithio gyda threnau.
Rydym yn argymell yn gryf i chi ystyried rhannu’r teithiau. Nid yn unig mae hyn yn helpu i rannu costau tanwydd ond hefyd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd - rydym yn defnyddio ein grŵp Facebook a’n rhestr e-bost i gysylltu pobl sy’n teithio o ardaloedd a llwybrau tebyg. Mwy o wybodaeth am Ganolfan Stackpole ar gael yma.
Beth Sydd ar gael?
Yn ystod y dydd, byddwch yn canolbwyntio ar eich dosbarth dewis cyntaf, lle byddwch yn adeiladu repertoire ac yn cryfhau’r technegau sylfaenol. Bydd y sesiynau hyn hefyd yn cynnwys amser i weithio ar ddarnau'r Gerddorfa Ffidil; aelodau'r cwrs cyfan yn chwarae ynghyd.
Yn ogystal, bydd gennych yr opsiwn i ymuno â dosbarthiadau dewisol, megis:
-
Hunan-gyfeilio wrth ganu
-
Byrfyfyrio harmonïau i alawon
-
Archwilio arddulliau ffidil eraill
Wrth archebu, byddwch yn dewis eich prif grŵp, ond gellir cofrestru ar gyfer y dosbarthiadau dewisol ar ôl cyrraedd. Cyn y cwrs, byddwn yn anfon llyfr alawon digidol atoch gydag alawon sesiwn Cymreig safonol fel y gallwch ddod yn barod—er mae hyn yn hollol ddewisol!
Bydd y nosweithiau yn cynnwys creu cerddoriaeth anffurfiol, gyda sesiynau alawon yn digwydd yn ystod yr ardaloedd gyffredin. Byddwn yn cynnal dau fath o sesiynau: un yn gyflym ac yn fywiog, a’r llall yn fwy hamddenol ac ysgafn. Ry'n ni ar bigau'r drain i jamio gyda chi tan berfeddion!
Ar y nos Sadwrn, mae gwahaddodiad i chi fynychu perfformiad arbennig gan VRï, yn cyflwyno ein blas unigryw siambr-werin o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Gweler y fideo uchod i weld uchafbwyntiau o’r llynedd!
Ar ôl ymuno â ni yn Ffidil Fawr, bydd gennych y cyfle i arosmewn cyswllt drwy ein grŵp Facebook a’n ardal aelodau, lle rydym yn rhannu adnoddau’r cwrs a chadw’r alawon i fynd.
Ychydig o nodiadau:
-
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio ar gyfer chwaraewyr llinynnol o unrhyw safon.
-
Os ydych chi’n chwarae offeryn arall—nid oes ots pa mor anarferol—dewch â rhain i’r sesiynau hwyr! Byddem wrth ein boddau i'w clywed a'i ychwanegu i'r bwrlwm.
-
Mae croeso i bobol o dan 18 ond mae rhaid iddynt fod yng nghymni oedolyn trwy'r amser.
Mae’r penwythnos yn gwbl gynhwysol. Byddwch yn aros yng Nghanolfan y Stagbwll, gyda phob pryd o fwyd wedi’i ddarparu, yn cynnwys opsiynau i weddu ac anghenion deietegol. Byddwn yn ymgynnull ar y Nos Iau, ac rydym yn gorffen ar ôl cinio Dydd Sul.
Mae’r penwythnos ffidil hwn yn rhywbeth arbennig. Disgrifiodd un cyfranogwr Ffidil Fawr fel: "Y profiad mwyaf anhygoel. Diolch yn FAWR - mwy cyn bo hir ar ôl i mi brosesu'r cyfarfod rhyfeddol hon o bobol. Arbennig" IAWN...”
Yn galw soddgrythwyr!
Rydym yn arbennig o gyffrous i groesawu cellists yn ogystal â chwaraewyr llinynnol eraill i Ffidil Fawr. Mae’r cello yn dod yn rheidrwydd mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, a Jordan Price Williams ni yw’r un sy’n arwain y ffordd. Fel un o arloeswyr Cymru mewn addasu’r cello i arddulliau traddodiadol, bydd Jordan yn rhannu ei arbenigedd a’i angerdd, gan helpu cellists i ddarganfod eu lle yn y traddodiad yma wrth iddo esblygu. Boed chi'n chwaraewr profiadol neu’n ddechreuwr chwilfrydig, dyma’ch cyfle i archwilio rôl y soddgrwth mewn cerddoriaeth Gymreig a bod yn rhan o bennod nesa'r stori.
Chwaraewyr fiola, Mae Hwn Ar eich cyfer Chi Hefyd!
Mae’r viola yn offeryn gwych mewn cerddoriaeth draddodiadol, ac rydym yn gyffrous i wahodd y viola i archwilio’r sain bendigedig hon gyda ni. Mae Patrick Rimes, un o gerddorion mwyaf dawnus Cymru, nid yn unig yn ffidlwr eithriadol ond hefyd yn chwaraewr fiola cyflawn sydd wedi asio'r viola fewn i'w waith. P’un ai ydych yn fiolydd profiadol neu’n chwilfrydig am sut mae’r fiola yn perthyn i arddulliau traddodiadol, bydd Patrick yn eich tywys i ddatgelu ei botensial unigryw. Dyma gyfle gwych i fiolyddion ehangu eu gorwelion cerddorol, ehangu eu repertoire, a bodoli mwy yn y byd chwarae ffidil Cymreig.
Dosbarthiadau Ffidil
Allan o'r To - Perffaith ar gyfer dechreuwyr neu’r rhai sy’n adeiladu hyder, mae’r dosbarth hwn yn canolbwyntio ar yr hanfodion i ddechrau’ch taith ffidil.
Tradd ar Agor - Archwiliwch alawon Cymreig traddodiadol gyda technegau creadigol, chwarae mynegiannol, a ffocws ar ddyfnder arddull.
Pencerdd y Ffidil: Y Traddodiad Cymreig - Hyfforddiant i chwaraewyr uwch, mae’r dosbarth hwn yn ymdrin â darnau cymhleth, cyflawni arddull, a sgiliau byrfyfyrio.
Dosbarth Cello
Darganfyddwch lais unigryw’r soddgrwth mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Bydd y dosbarth hwn yn archwilio technegau ysbrydolwyd gan y ffidil fel patrymau bwa yn llifo ac addurno alawon, gan ychwanegu nodwedd Gymreig i’ch chwarae. Byddwch hefyd yn ymdrin â rôl rhythmig y soddgrwth, yn dysgu creu llinellau bas, cyfalaw, a strwythurau cordiau sy’n dod âg alawon Cymreig yn fyw. Perffaith ar gyfer soddgrythwyr sydd eisiau dyfnhau eu cysylltiad â cherddoriaeth draddodiadol ac ehangu eu sgiliau.
Penwythnos Ffidil cymreig
y tiwtoriaid
cofrestra fi! Sut ydw i'n archebu?
Mae tocynnau ar gyfer y tri diwrnod yn £230, ac mae'r tocynnau ar gyfer llety a bwyd ar y safle yn dechrau o £90. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar y dudalen archebu.
Cysylltwch â ni am llifftiau a rhannu ceir - gallwn eich cysylltu â chyfranogwyr eraill!